Y Salmau 123:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.

2. Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.

3. Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni รข dirmyg yn ddirfawr.

Y Salmau 123