Sechareia 12:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.

2. Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.

3. A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.

4. Y diwrnod hwnnw, medd yr Arglwydd, y trawaf bob march â syndra, a'i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb.

5. A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.

6. Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.

7. Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda.

8. Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o'u blaen hwynt.

Sechareia 12