Sechareia 12:6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.