5. Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.
6. Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Libanus.
7. Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.
8. Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.
9. Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a'i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr Arglwydd, a'r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.