Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a'i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr Arglwydd, a'r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.