1. Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac arweiniais chwi i'r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
2. Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
3. Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o'ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau fydd yn fagl i chwi.
4. A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
5. Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i'r Arglwydd.
6. A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i'w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.
7. A'r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
8. A bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.
9. A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
10. A'r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
11. A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim:
12. Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd.