Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac arweiniais chwi i'r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.