17. A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o'r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18. Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel:
19. Ac a orchmynnodd i'r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin:
20. Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer?
21. Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22. Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o'i blegid.
23. A'r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i'r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth.
24. A'r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weision y brenin a fuant feirw; a'th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
25. Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, Fel hyn y dywedi di wrth Joab; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.
26. A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod.
27. A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a'i cyrchodd hi i'w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddûg iddo fab. A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd.