1. Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a'i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.
2. A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a'r wraig oedd deg iawn yr olwg.
3. A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad?
4. A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a'i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
5. A'r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.
6. A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd.
7. A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel.
8. Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i'th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef.
9. Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i'w dŷ ei hun.
10. Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i'w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o'th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i'th dŷ dy hun?
11. A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i'm tŷ fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn.
12. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y'th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth.
13. A Dafydd a'i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a'i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i'w dŷ ei hun.
14. A'r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a'i hanfonodd yn llaw Ureias.
15. Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw.
16. A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo.
17. A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o'r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18. Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel:
19. Ac a orchmynnodd i'r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin:
20. Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer?
21. Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22. Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o'i blegid.
23. A'r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i'r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth.
24. A'r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weision y brenin a fuant feirw; a'th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
25. Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, Fel hyn y dywedi di wrth Joab; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.
26. A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod.
27. A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a'i cyrchodd hi i'w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddûg iddo fab. A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd.