14. A'r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a'i hanfonodd yn llaw Ureias.
15. Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw.
16. A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo.
17. A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o'r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18. Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel:
19. Ac a orchmynnodd i'r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin:
20. Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer?
21. Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22. Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o'i blegid.
23. A'r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i'r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth.