4. A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad, ac i'r offeiriaid o'r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allan o deml yr Arglwydd yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i'r llwyn, ac i holl lu'r nefoedd: ac efe a'u llosgodd hwynt o'r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron, ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.
5. Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i'r haul, ac i'r lleuad, ac i'r planedau, ac i holl lu'r nefoedd.
6. Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr Arglwydd, i'r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a'i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a'i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.
7. Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid, y rhai oedd wrth dŷ yr Arglwydd, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i'r llwyn.
8. Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beerseba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas.
9. Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr Arglwydd i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr.
10. Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na'i ferch trwy dân i Moloch.