2 Brenhinoedd 23:6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr Arglwydd, i'r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a'i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a'i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.