Y Salmau 96:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw,cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.

3. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.

4. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.

5. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

6. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a gogoniant yn ei gysegr.

7. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;

Y Salmau 96