1. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear.
2. Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw,cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.
3. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
4. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
5. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
6. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a gogoniant yn ei gysegr.
7. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
8. rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.
9. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd;crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.