Y Salmau 73:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;y mae eu cyrff yn iach a graenus.

5. Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.

6. Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,a thrais yn wisg amdanynt.

7. Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.

8. Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,yn sôn yn ffroenuchel am ormes.

9. Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.

10. Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt,ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.

11. Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”

Y Salmau 73