Y Salmau 73:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd;wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef.

21. Pan oedd fy nghalon yn chwerwa'm coluddion wedi eu trywanu,

22. yr oeddwn yn ddwl a diddeall,ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.

23. Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.

24. Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.

Y Salmau 73