Y Salmau 66:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Dof i'th deml â phoethoffrymau,talaf i ti fy addunedau,

14. a wneuthum â'm gwefusauac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

15. Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,a hefyd hyrddod yn arogldarth;darparaf ychen a bychod geifr.Sela

16. Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.

17. Gwaeddais arno â'm genau,ac yr oedd moliant ar fy nhafod.

18. Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon,ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;

Y Salmau 66