Y Salmau 52:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yr wyt yn caru pob gair difaolac iaith dwyllodrus.

5. Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth,bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell,ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw.Sela

6. Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni,yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,

7. “Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa,ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau,a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun.”

8. Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhŷ Dduw;ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.

9. Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost;cyhoeddaf dy enw—oherwydd da yw—ymysg dy ffyddloniaid.

Y Salmau 52