Y Salmau 45:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.

5. Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;syrth pobloedd odanat.

6. Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol,a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.

7. Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinioag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.

8. Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.

9. Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.

Y Salmau 45