Y Salmau 143:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,gwrando ar fy neisyfiad.Ateb fi yn dy ffyddlondeb—yn dy gyfiawnder.

2. Paid â mynd i farn â'th was,oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.

3. Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.

4. Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,a'm calon wedi ei dal gan arswyd.

5. Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,ac yn meddwl am waith dy ddwylo.

6. Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti,ac yn sychedu amdanat fel tir sych.Sela

7. Brysia i'm hateb, O ARGLWYDD,y mae fy ysbryd yn pallu;paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,neu byddaf fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

Y Salmau 143