Y Salmau 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr?Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?

2. Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid,a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd?Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?

3. Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw;goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,

4. rhag i'm gelyn ddweud, “Gorchfygais ef”,ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.

Y Salmau 13