9. Yr wyf yn bwyta lludw fel bara,ac yn cymysgu fy niod â dagrau,
10. o achos dy lid a'th ddigofaint,oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu.
11. Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.
12. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,a phery dy enw dros y cenedlaethau.
13. Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;y mae'n adeg i dosturio wrthi,oherwydd fe ddaeth yr amser.
14. Y mae dy weision yn hoffi ei meini,ac yn tosturio wrth ei llwch.
15. Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD,a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
16. Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion,bydd yn ymddangos yn ei ogoniant;
17. bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig,ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad.
18. Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod,fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD:
19. ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd,i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear,