Y Salmau 102:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,a doed fy nghri atat.

2. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyfyn nydd fy nghyfyngder;tro dy glust ataf,brysia i'm hateb yn y dydd y galwaf.

3. Oherwydd y mae fy nyddiau'n darfod fel mwg,a'm hesgyrn yn llosgi fel ffwrn.

4. Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt;yr wyf yn darfod o beidio â bwyta.

5. Oherwydd sŵn fy ochneidioy mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd.

6. Yr wyf fel pelican mewn anialwch,ac fel tylluan mewn adfeilion.

7. Yr wyf yn methu cysgu,ac fel aderyn unig ar do.

Y Salmau 102