Judith 13:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ond yr oedd wedi hwyrhau, a brysiodd ei weision i ymadael. Caeodd Bagoas y babell o'r tu allan, gan gau allan y gwarchodwyr o ŵydd ei arglwydd, ac aeth y rheini ymaith i'w gwelyau; yr oedd pawb wedi blino'n lân gan i'r wledd barhau cyhyd.

2. Gadawyd Judith ar ei phen ei hun yn y babell, a Holoffernes wedi syrthio ar ei hyd ar ei wely; yr oedd yn frwysg gan win.

3. Dywedodd Judith wrth ei chaethferch am sefyll y tu allan i'w hystafell wely a disgwyl am ei hymadawiad, fel y byddai'n gwneud yn feunyddiol. Yr oedd wedi dweud wrthi y byddai'n mynd i'w man gweddi, ac wedi rhoi'r un neges i Bagoas.

4. Yr oedd pawb wedi mynd allan, ac nid oedd neb, neb pwysig na dinod, ar ôl yn yr ystafell. Safodd Judith wrth wely Holoffernes, a gweddïo'n ddistaw: “O Arglwydd Dduw pob gallu, edrych yn awr ar waith fy nwylo er dyrchafu Jerwsalem,

5. oherwydd dyma'r awr i gynorthwyo dy dreftadaeth a chyflawni fy nghynllun i ddryllio'r gelynion a gododd yn ein herbyn.”

6. Aeth at erchwyn y gwely, wrth ymyl pen Holoffernes, a chymryd ei gleddyf i lawr.

7. Nesaodd at y gwely a gafael yng ngwallt ei ben, a dweud, “Nertha fi, O Arglwydd Dduw Israel, y dydd hwn.”

8. Â'i holl nerth, trawodd ei wddf ddwywaith a thorri ei ben i ffwrdd.

9. Treiglodd ei gorff oddi ar y gwely, a thynnu'r llen i lawr o'r pyst. Ar unwaith dyma hi'n mynd allan a rhoi pen Holoffernes i'w llawforwyn,

10. a dododd hithau ef yn ei chod bwyd. Aeth y ddwy allan gyda'i gilydd fel arfer i weddïo. Aethant trwy'r gwersyll ac o amgylch y dyffryn, a dringo Mynydd Bethulia nes cyrraedd pyrth y dref honno.

Judith 13