Judith 13:3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Dywedodd Judith wrth ei chaethferch am sefyll y tu allan i'w hystafell wely a disgwyl am ei hymadawiad, fel y byddai'n gwneud yn feunyddiol. Yr oedd wedi dweud wrthi y byddai'n mynd i'w man gweddi, ac wedi rhoi'r un neges i Bagoas.