3. a gofalu am alarwyr Seion;a rhoi iddynt goron yn lle lludw,olew llawenydd yn lle galar,mantell moliant yn lle digalondid.Gelwir hwy yn brennau cyfiawnderwedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
4. Ailadeiladant hen adfeilion,cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd;atgyweiriant ddinasoedd diffaithac anghyfanedd-dra llawer oes.
5. Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd,ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr.
6. Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD,a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni;cewch fwyta o olud y cenhedloeddac ymffrostio yn eu cyfoeth.
7. Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd,yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan,fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad,a chael llawenydd di-baid.
8. “Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder,ac yn casáu trais a chamwri;rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth,a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.
9. Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd,a'u hil ymhlith y bobloedd;bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabodyn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.”