Eseia 61:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf,oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinioi gyhoeddi newyddion da i'r tlodion,a chysuro'r toredig o galon;i gyhoeddi rhyddid i'r caethion,a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;

2. i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDDa dydd dial ein Duw ni;i ddiddanu pawb sy'n galaru,

3. a gofalu am alarwyr Seion;a rhoi iddynt goron yn lle lludw,olew llawenydd yn lle galar,mantell moliant yn lle digalondid.Gelwir hwy yn brennau cyfiawnderwedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.

4. Ailadeiladant hen adfeilion,cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd;atgyweiriant ddinasoedd diffaithac anghyfanedd-dra llawer oes.

5. Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd,ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr.

6. Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD,a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni;cewch fwyta o olud y cenhedloeddac ymffrostio yn eu cyfoeth.

Eseia 61