Ecclesiasticus 40:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. ac ar foment ei ddihangfa, y mae'n deffroac yn rhyfeddu mor ddisail oedd ei ofn.

8. Dyma hanes pob cnawd, yn ddyn ac anifail,a seithwaith gwaeth yn hanes pechaduriaid:

9. marwolaeth, a thywallt gwaed, a chynnen, a chleddyf,trallodion, newyn, cyfyngder, a phla.

10. Ar gyfer y drygionus y crewyd y rhain i gyd,ac o'u hachos hwy y daeth y dilyw.

11. Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.

12. Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.

Ecclesiasticus 40