Ecclesiasticus 40:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Melys yw gweithio a bod yn hunangynhaliol,ond gwell na'r ddau yw dod o hyd i drysor.

19. Y mae cael plant ac adeiladu dinas yn sicrhau enw i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw gwraig ddi-fai.

20. Y mae gwin a cherddoriaeth yn llawenhau'r galon,ond gwell na'r ddau yw cariad at ddoethineb.

21. Y mae pibell a thelyn yn bêr eu sain,ond gwell na'r ddwy yw llais swynol.

22. Tegwch a phrydferthwch sydd wrth fodd y llygad,ond gwell na'r ddau yw egin glas yr ŷd.

23. Hyfryd yw taro ar gâr a chyfaill,ond gwell na'r ddau yw bod yn ŵr a gwraig.

24. Hyfryd yn amser cyfyngder yw cael teulu a chefnogaeth,ond gwell na'r ddau i achub yw elusengarwch.

Ecclesiasticus 40