Ecclesiasticus 40:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.

12. Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.

13. Fel ffrwd yn sychu y bydd cyfoeth yr anghyfiawn,yn darfod fel twrw taran fawr mewn cawod o law.

14. Wrth agor ei ddwylo caiff rhywun lawenydd;yn yr un modd daw troseddwyr i ddifodiant llwyr.

Ecclesiasticus 40