Ecclesiasticus 40:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ar gyfer y drygionus y crewyd y rhain i gyd,ac o'u hachos hwy y daeth y dilyw.

11. Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.

12. Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.

13. Fel ffrwd yn sychu y bydd cyfoeth yr anghyfiawn,yn darfod fel twrw taran fawr mewn cawod o law.

14. Wrth agor ei ddwylo caiff rhywun lawenydd;yn yr un modd daw troseddwyr i ddifodiant llwyr.

15. Ni thyf llawer o ganghennau o gyff yr annuwiol,a'u gwreiddiau pwdr wedi eu plannu ar greigle noeth.

16. Y mae'r hesg sy'n tyfu lle bynnag y mae dŵr neu afon yn rhedegyn haws eu tynnu nag unrhyw dyfiant arall.

17. Y mae rhadlonrwydd yn baradwys o fendithion,ac elusengarwch yn dragwyddol ei barhad.

18. Melys yw gweithio a bod yn hunangynhaliol,ond gwell na'r ddau yw dod o hyd i drysor.

19. Y mae cael plant ac adeiladu dinas yn sicrhau enw i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw gwraig ddi-fai.

20. Y mae gwin a cherddoriaeth yn llawenhau'r galon,ond gwell na'r ddau yw cariad at ddoethineb.

21. Y mae pibell a thelyn yn bêr eu sain,ond gwell na'r ddwy yw llais swynol.

22. Tegwch a phrydferthwch sydd wrth fodd y llygad,ond gwell na'r ddau yw egin glas yr ŷd.

23. Hyfryd yw taro ar gâr a chyfaill,ond gwell na'r ddau yw bod yn ŵr a gwraig.

24. Hyfryd yn amser cyfyngder yw cael teulu a chefnogaeth,ond gwell na'r ddau i achub yw elusengarwch.

25. Rhydd aur ac arian droedle sefydlog i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw cyngor buddiol.

26. Y mae cyfoeth a nerth yn codi calon rhywun,ond gwell na'r ddau yw ofn yr Arglwydd.Ni bydd neb ar ei golled o ofni'r Arglwydd,ac ni bydd rhaid iddo chwilio am gymorth arall.

Ecclesiasticus 40