Ecclesiasticus 34:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.

10. Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad,ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.

11. Rwyf wedi gweld llawer ar fy nheithiau,ac rwy'n amgyffred pethau sydd y tu hwnt i'm geiriau.

12. Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes,ond dihengais ar bwys y profiadau hyn.

13. Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd,oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.

14. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, ni bydd nac ofnusna llwfr, oherwydd yn yr Arglwydd y mae ei obaith.

15. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd.Wrth bwy y mae'n disgwyl? Pwy yw ei gadernid ef?

Ecclesiasticus 34