Ecclesiasticus 34:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ofer pob dewiniaeth ac argoelion a breuddwydion—dychmygion y meddwl, fel eiddo gwraig mewn gwewyr esgor.

6. Onis anfonwyd gan ymweliad y Goruchaf,paid â chymryd sylw ohonynt.

7. Oherwydd y mae breuddwydion wedi arwain llawer ar gyfeiliorn,a dymchwel y rhai a obeithiodd ynddynt.

8. Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd,a chyflawnir doethineb ar enau geirwir.

9. Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.

10. Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad,ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.

Ecclesiasticus 34