Ecclesiasticus 34:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Nid yw'r hyn a welir mewn breuddwyd yn ddim namyn llun,cyffelybrwydd o wyneb mewn drych.

4. Beth a lanheir ag aflendid?A beth a wireddir â chelwydd?

5. Ofer pob dewiniaeth ac argoelion a breuddwydion—dychmygion y meddwl, fel eiddo gwraig mewn gwewyr esgor.

6. Onis anfonwyd gan ymweliad y Goruchaf,paid â chymryd sylw ohonynt.

7. Oherwydd y mae breuddwydion wedi arwain llawer ar gyfeiliorn,a dymchwel y rhai a obeithiodd ynddynt.

8. Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd,a chyflawnir doethineb ar enau geirwir.

9. Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.

Ecclesiasticus 34