Ecclesiasticus 34:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Lladd ei gymydog y mae'r sawl sy'n dwyn ei fywoliaeth,a thywallt gwaed y mae'r sawl sy'n atal ei gyflog i weithiwr.

23. Os bydd un yn adeiladu a'r llall yn tynnu i lawr,pa elw fydd iddynt heblaw poen eu llafur?

24. Os bydd un yn gweddïo a'r llall yn melltithio,ar lais p'run y gwrendy'r Meistr?

25. Os ymolcha rhywun ar ôl cyffwrdd celain, a'i chyffwrdd eilwaith,pa faint gwell fydd o'i ymolchi?

26. Felly hefyd os ymprydia rhywun am ei bechodau,a mynd eilwaith a gwneud yr un pethau,pwy a wrendy ar ei weddi,a pha faint gwell fydd o'i ymostyngiad?

Ecclesiasticus 34