Ecclesiasticus 34:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes,ond dihengais ar bwys y profiadau hyn.

13. Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd,oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.

14. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, ni bydd nac ofnusna llwfr, oherwydd yn yr Arglwydd y mae ei obaith.

15. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd.Wrth bwy y mae'n disgwyl? Pwy yw ei gadernid ef?

16. Y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai sy'n ei garu,yn amddiffynfa gadarn ac yn gynhaliaeth gref,yn gysgod rhag gwres tanbaid a rhag haul canol dydd,yn ddiogelwch rhag baglu ac yn gymorth rhag cwympo.

17. Y mae'n codi eu hysbryd ac yn goleuo eu llygaid,gan roi iddynt iechyd a bywyd a bendith.

18. Halogedig yw offrwm a wneir o fudrelw,ac anghymeradwy yw rhoddion digyfraith.

19. Nid yw'r Goruchaf yn ymhyfrydu yn offrymau'r annuwiol,ac nid yw'n puro'u pechodau ar bwys amlder eu haberthau.

20. Y mae dwyn eiddo'r tlodion, a'i gynnig yn offrwm,fel aberthu mab yng ngŵydd ei dad.

21. Y mae bara'n fywyd i'r tlodion yn eu hangen,a llofrudd yw'r sawl a'i cymer oddi wrthynt.

Ecclesiasticus 34