3. Pan oedd yn ardal Ecbatana daeth y newydd ato am helynt Nicanor ac am Timotheus a'i fyddin.
4. Yng nghynnwrf ei ddicter daeth i'w feddwl wneud i'r Iddewon dalu am y niwed a gafodd gan y rhai oedd wedi ei yrru ar ffo, a gorchmynnodd i yrrwr ei gerbyd fwrw ymlaen heb aros yn unman nes cyrraedd pen y daith. Ond yr oedd barnedigaeth y nef yn cyd-deithio ag ef oherwydd iddo ddweud yn ei draha, “Pan gyrhaeddaf yno, fe drof Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon.”
5. A dyma'r Arglwydd sy'n gweld popeth, Duw Israel, yn ei daro â chlefyd na ellid na'i wella na'i weld. Nid cynt y llefarodd y gair nag y cydiodd poen marwol yn ei goluddion, a chnofeydd mewnol dirdynnol,
6. fel y gweddai'n iawn i un oedd wedi dirdynnu coluddion pobl eraill ag arteithiau aml a dieithr.
7. Ond nid oedd dim pall ar ei haerllugrwydd; yn llawn traha, ac â'i ddicter yn erbyn yr Iddewon yn wenfflam, daliai ati i orchymyn brys. Ond wrth i'w gerbyd ruthro yn ei flaen, syrthiodd allan ohono. Yr oedd ei godwm mor drwm nes rhwygo'n dost bob aelod o'i gorff.
8. Ac felly, hwnnw a fu gynnau'n ei gyfrif ei hun gymaint yn uwch na dyn ag i fedru rhoi gorchmynion i donnau'r môr, ac yn tybio y gallai bwyso uchelderau'r mynyddoedd mewn clorian, dyma ef yn awr, wedi cael ei fwrw i lawr, yn cael ei gludo ar elor, yn amlygiad clir i bawb o allu Duw.
9. Yn wir, heidiodd pryfed allan o gorff y dyn annuwiol hwn, a dechreuodd ei gnawd ddadfeilio ac yntau'n dal yn fyw, gan beri poenau ingol. Llethwyd y fyddin gyfan gan ddrewdod ei gorff pydredig.
10. Ie, y dyn a oedd ychydig ynghynt yn tybio y gallai gyffwrdd â sêr y nefoedd, yn awr ni allai neb ei gludo o achos bwrn annioddefol y drewdod.
11. Y pryd hwnnw, felly, dechreuodd y brenin drylliedig roi'r gorau i'w holl draha, a dod i wir ddealltwriaeth wrth i frathiadau fflangell Duw ddwysáu o funud i funud.