2 Macabeaid 9:4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yng nghynnwrf ei ddicter daeth i'w feddwl wneud i'r Iddewon dalu am y niwed a gafodd gan y rhai oedd wedi ei yrru ar ffo, a gorchmynnodd i yrrwr ei gerbyd fwrw ymlaen heb aros yn unman nes cyrraedd pen y daith. Ond yr oedd barnedigaeth y nef yn cyd-deithio ag ef oherwydd iddo ddweud yn ei draha, “Pan gyrhaeddaf yno, fe drof Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon.”

2 Macabeaid 9

2 Macabeaid 9:1-13