15. Ond galwodd Jwdas a'i wŷr ar Benarglwydd mawr y byd, yr Un yn amser Josua a chwalodd i'r llawr furiau Jericho heb na thrawst taro na pheiriant rhyfel, ac yna ymosodasant yn ffyrnig ar y mur.
16. Ac wedi iddynt, trwy ewyllys Duw, oresgyn y dref, gwnaethant gyflafan y tu hwnt i bob disgrifiad, nes bod y llyn gerllaw, a oedd yn bedwar can medr o led, i'w weld fel petai'n gorlifo â gwaed.
17. Wedi cilio tua chan cilomedr a hanner oddi yno, daethant i ben eu taith yn Charax, cartref yr Iddewon a elwir y Twbiaid.
18. Ond ni chawsant afael ar Timotheus yn yr ardal honno; yr oedd erbyn hynny wedi mynd oddi yno heb gyflawni dim, ond nid cyn gadael garsiwn mewn un man, a hwnnw'n un cryf iawn.
19. Ac aeth Dositheus a Sosipater, dau o gadfridogion Macabeus, ar gyrch a difa'r gwŷr a adawyd ar ôl yn y gaer gan Timotheus, dros ddeng mil ohonynt.
20. Trefnodd Macabeus y fyddin oedd gydag ef yn gatrodau, a phenodi capteiniaid arnynt. Yna cychwynnodd ar frys yn erbyn Timotheus, a oedd yn arwain byddin o gant ac ugain o filoedd o wŷr traed, a dwy fil a hanner o wŷr meirch.
21. Pan hysbyswyd iddo fod Jwdas yn ymosod, anfonodd Timotheus y gwragedd a'r plant, ynghyd â holl gyfreidiau'r fyddin, ymaith o'i flaen i le a elwir Carnaim, man anodd gwarchae arno ac anodd ei gyrraedd o achos culni'r holl fynedfeydd.
22. Ond pan ddaeth catrawd gyntaf Jwdas i'r golwg, daliwyd y gelyn gan fraw ac arswyd o achos ymddangosiad yr Un sy'n gweld popeth, a rhuthrasant ar ffo, pob un yn rhedeg i gyfeiriad gwahanol, nes clwyfo llawer ohonynt gan eu gwŷr eu hunain, a'u trywanu gan flaenau eu cleddyfau.
23. Aeth Jwdas ati i erlid y drwgweithredwyr hynny'n galetach nag erioed, a'u gwanu'n ddi-ball, nes lladd hyd at ddeng mil ar hugain ohonynt.
24. Cwympodd Timotheus ei hun i afael gwŷr Dositheus a Sosipater, ond ymbiliodd yn ystrywgar iawn am gael ei arbed a'i ollwng yn rhydd am y rheswm ei fod yn dal rhieni llawer ohonynt, a brodyr rhai, ac na fyddai cyfrif amdanynt.
25. Gan iddo ymrwymo'n ddifrifol drosodd a thro yr anfonai hwy'n ôl yn ddianaf, fe'u gollyngasant yn rhydd er mwyn achub eu brodyr.
26. Aeth Jwdas yn ei flaen i ymosod ar Carnaim a theml Atargatis, a gwnaeth laddfa ar bum mil ar hugain o bobl.
27. Wedi troi'r rhain yn eu hôl a'u difa, arweiniodd ei fyddin yn erbyn Effron, tref gaerog lle trigai Lysias ynghyd â lluoedd o bobl o bob hil. Ond o flaen y muriau yr oedd amddiffynwyr glew, dynion ifainc cryfion, a thu mewn yr oedd cyflenwad da o beiriannau rhyfel a thaflegrau.
28. Wedi galw ar y Penarglwydd sy'n chwilfriwio â'i rym holl nerth y gelyn, cawsant y trechaf ar y dref, a gadael yn gelanedd hyd at bum mil ar hugain o'r amddiffynwyr.
29. Oddi yno aethant i ymosod ar Scythopolis, tref sy'n gan cilomedr ac un ar ddeg o Jerwsalem.
30. Ond tystiodd yr Iddewon oedd wedi ymsefydlu yno fod pobl Scythopolis yn llawn ewyllys da tuag atynt, a'u bod yn eu trin yn garedig yn nyddiau adfyd.