2 Macabeaid 12:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Trefnodd Macabeus y fyddin oedd gydag ef yn gatrodau, a phenodi capteiniaid arnynt. Yna cychwynnodd ar frys yn erbyn Timotheus, a oedd yn arwain byddin o gant ac ugain o filoedd o wŷr traed, a dwy fil a hanner o wŷr meirch.