2 Macabeaid 10:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Wedi gwneud hynny, aethant ar eu hyd ar lawr a gofyn gan yr Arglwydd am i'r fath ddrygau beidio â disgyn arnynt byth eto; ond am iddynt, petaent byth yn pechu, gael eu disgyblu'n gymesur ganddo ef yn hytrach na'u traddodi i ddwylo cenhedloedd cableddus ac anwar.

5. Purwyd y cysegr ar yr un dyddiad ag yr halogwyd ef gynt gan yr estroniaid, sef y pumed dydd ar hugain o'r un mis, mis Cislef,

6. ac mewn gorfoledd buont yn dathlu am wyth diwrnod yn null Gŵyl y Pebyll, gan gofio sut y buont ychydig ynghynt yn treulio cyfnod yr ŵyl honno, yn byw yn y mynyddoedd mewn ogofâu fel bwystfilod.

7. Felly, â gwiail wedi eu hamdorchi ag eiddew yn eu dwylo, a changhennau deiliog, ynghyd â brigau palmwydd, canent emynau i'r Un oedd wedi agor y ffordd iddynt buro'i deml ef ei hun.

8. Trwy ordinhad a phleidlais gyhoeddus deddfwyd bod holl genedl yr Iddewon i ddathlu'r dyddiau hyn yn flynyddol.

9. Ac felly y bu diwedd Antiochus, a elwid Epiffanes.

10. Ac yn awr, trown at hanes Antiochus Ewpator, mab y dyn annuwiol hwnnw. Traethaf ef ar lun crynodeb o brif drychinebau'r rhyfeloedd.

11. Pan etifeddodd hwn y frenhiniaeth, fe benododd yn bennaeth ei lywodraeth ryw Lysias, llywodraethwr a phrif ynad Celo-Syria a Phenice.

12. Yr oedd Ptolemeus Macron, fel y gelwid ef, wedi cychwyn polisi o ddelio'n gyfiawn â'r Iddewon, ac wedi ceisio gweithredu'n heddychlon tuag atynt, o achos yr anghyfiawnder a wnaethpwyd â hwy.

13. Ond o ganlyniad dygwyd cyhuddiadau yn ei erbyn at Ewpator gan Gyfeillion y Brenin, a chlywodd ei alw'n fradwr ar bob llaw am iddo gefnu ar Cyprus a chilio at Antiochus Epiffanes, er bod Philometor wedi ymddiried yr ynys i'w ofal. Am na lwyddodd i ennill y parch a berthynai i'w swydd, cymerodd wenwyn a diweddu ei fywyd.

14. Pan ddaeth Gorgias yn llywodraethwr y rhanbarthau hynny, dechreuodd gyflogi milwyr tâl ac ymosod ar yr Iddewon bob cyfle a gâi.

15. Ar yr un pryd yr oedd yr Idwmeaid hefyd, o'r caerau cyfleus a oedd yn eu meddiant, yn plagio'r Iddewon; yr oeddent wedi derbyn atynt yr alltudion o Jerwsalem, a gwnaent eu gorau i barhau'r rhyfel.

2 Macabeaid 10