Ond o ganlyniad dygwyd cyhuddiadau yn ei erbyn at Ewpator gan Gyfeillion y Brenin, a chlywodd ei alw'n fradwr ar bob llaw am iddo gefnu ar Cyprus a chilio at Antiochus Epiffanes, er bod Philometor wedi ymddiried yr ynys i'w ofal. Am na lwyddodd i ennill y parch a berthynai i'w swydd, cymerodd wenwyn a diweddu ei fywyd.