1. Dan arweiniad yr Arglwydd adenillodd Macabeus a'i ddilynwyr y deml a'r ddinas,
2. a chwalasant yr allorau a godwyd ar y sgwâr gan yr estroniaid, ynghyd â'u llannau cysegredig.
3. Wedi puro'r cysegr codasant allor newydd, ac wedi taro gwreichion o gerrig a chymryd tân oddi wrthynt, offrymasant aberthau ar ôl bwlch o ddwy flynedd; llosgasant arogldarth, a chynnau'r lampau, a gosod allan y bara cysegredig.
4. Wedi gwneud hynny, aethant ar eu hyd ar lawr a gofyn gan yr Arglwydd am i'r fath ddrygau beidio â disgyn arnynt byth eto; ond am iddynt, petaent byth yn pechu, gael eu disgyblu'n gymesur ganddo ef yn hytrach na'u traddodi i ddwylo cenhedloedd cableddus ac anwar.
5. Purwyd y cysegr ar yr un dyddiad ag yr halogwyd ef gynt gan yr estroniaid, sef y pumed dydd ar hugain o'r un mis, mis Cislef,
6. ac mewn gorfoledd buont yn dathlu am wyth diwrnod yn null Gŵyl y Pebyll, gan gofio sut y buont ychydig ynghynt yn treulio cyfnod yr ŵyl honno, yn byw yn y mynyddoedd mewn ogofâu fel bwystfilod.
7. Felly, â gwiail wedi eu hamdorchi ag eiddew yn eu dwylo, a changhennau deiliog, ynghyd â brigau palmwydd, canent emynau i'r Un oedd wedi agor y ffordd iddynt buro'i deml ef ei hun.
8. Trwy ordinhad a phleidlais gyhoeddus deddfwyd bod holl genedl yr Iddewon i ddathlu'r dyddiau hyn yn flynyddol.
9. Ac felly y bu diwedd Antiochus, a elwid Epiffanes.
10. Ac yn awr, trown at hanes Antiochus Ewpator, mab y dyn annuwiol hwnnw. Traethaf ef ar lun crynodeb o brif drychinebau'r rhyfeloedd.
11. Pan etifeddodd hwn y frenhiniaeth, fe benododd yn bennaeth ei lywodraeth ryw Lysias, llywodraethwr a phrif ynad Celo-Syria a Phenice.
12. Yr oedd Ptolemeus Macron, fel y gelwid ef, wedi cychwyn polisi o ddelio'n gyfiawn â'r Iddewon, ac wedi ceisio gweithredu'n heddychlon tuag atynt, o achos yr anghyfiawnder a wnaethpwyd â hwy.
13. Ond o ganlyniad dygwyd cyhuddiadau yn ei erbyn at Ewpator gan Gyfeillion y Brenin, a chlywodd ei alw'n fradwr ar bob llaw am iddo gefnu ar Cyprus a chilio at Antiochus Epiffanes, er bod Philometor wedi ymddiried yr ynys i'w ofal. Am na lwyddodd i ennill y parch a berthynai i'w swydd, cymerodd wenwyn a diweddu ei fywyd.
14. Pan ddaeth Gorgias yn llywodraethwr y rhanbarthau hynny, dechreuodd gyflogi milwyr tâl ac ymosod ar yr Iddewon bob cyfle a gâi.