2 Esdras 9:43-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Meddai hithau wrthyf: “Bûm i, dy wasanaethyddes, yn ddiffrwyth, ac er imi fod yn briod am ddeng mlynedd ar hugain nid oeddwn wedi dwyn plant.

44. A phob awr a phob diwrnod o'r deng mlynedd ar hugain hynny bûm yn gweddïo, nos a dydd, ar y Goruchaf.

45. Yna, ar ôl deng mlynedd ar hugain, gwrandawodd Duw arnaf fi, dy wasanaethferch; sylwodd ar fy narostyngiad, ystyriodd fy nhrallod, a rhoddodd imi fab. Mawr iawn oedd y llawenydd a gawsom ynddo, myfi a'm gŵr a'n holl gymdogion, a mawr iawn oedd y gogoniant a roesom i'r Duw nerthol.

2 Esdras 9