Yna, ar ôl deng mlynedd ar hugain, gwrandawodd Duw arnaf fi, dy wasanaethferch; sylwodd ar fy narostyngiad, ystyriodd fy nhrallod, a rhoddodd imi fab. Mawr iawn oedd y llawenydd a gawsom ynddo, myfi a'm gŵr a'n holl gymdogion, a mawr iawn oedd y gogoniant a roesom i'r Duw nerthol.