Salmau 97:1-2-10-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Mae’r Arglwydd yn frenin; boed lawen y bydHyd eitha’r ynysoedd pellennig i gyd.Mae cwmwl a chaddug o’i amgylch, a sailEi orsedd yw barn a chyfiawnder di-ail.

10-12. Fe gâr Duw gasawyr drygioni, a dwgFywydau’i ffyddloniaid o ddwylo’r rhai drwg.Llewyrcha goleuni ar yr uniawn. O dewch,Rai cyfiawn, a molwch; yn Nuw llawenhewch.

Salmau 97