Salmau 95:5-6a-9-11 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

5-6a. Ef biau’r môr, ac ef a’i gwnaeth;Y sychdir oll, o drum i draeth,A greodd ef â’i ddwylo hud.Dewch, ac addolwn ef ynghyd.

6b-7a. I’r Arglwydd plygwn, cans ef ywYr un a’n gwnaeth; ef yw ein Duw,A ninnau’n bobl iddo ef,Yn ddefaid ar borfeydd y nef.

7b-8. O wrando ar ei lais, fe gewchEi rym, ond nac anufuddhewch,Fel eich cyn-dadau ar eu hyntYn llwch Meriba a Massa gynt.

9-11. “Profasant fi, er gweld fy ngwaith.Dros ddeugain mlynedd blin eu taithFfieiddiais hwy, a’u her a’u brad,A dweud na chaent feddiannu’r wlad.”

Salmau 95