1-4. O dial, Arglwydd Dduw, ti farnwr byd,Rho’u haeddiant i’r rhai beilchion. Am ba hydY caiff y drwg, â’u parabl trahaus,Barhau i ymfalchïo mor sarhaus?
12-15. Gwyn fyd y sawl y dysgi iddo, O Dduw,Dy gyfraith, a’i ddisgyblu. Diogel ywRhag ing. Caiff eto d’etifeddiaeth diFarn deg, a’r uniawn yn ei dilyn hi.