1-2. Da yw dy foli, Arglwydd Dduw,A chanu i’th enw, gweddus yw:Sôn am dy gariad gyda’r wawr,A’r nos am dy ffyddlondeb mawr.
3-5. Â’r delyn fwyn a’i thannau mân,Ar gordiau’r dectant, seiniwn gân.Cans gwaith dy ddwylo a’m llonnodd i;Mor ddwfn yw dy feddyliau di!
12-13. Blodeua’r da fel palmwydd ir,Fel cedrwydd Lebanon, drwy’r tir.Yn nhŷ yr Arglwydd maent yn byw;Blodeuant yng nghynteddau’n Duw.
14-15. Parhant i ffrwytho hyd yn oedMewn henaint, wyrdd ac iraidd goed,I ddweud nad oes camwri yn Nuw:Ef yw fy nghraig, ac uniawn yw.