Salmau 92:1-2-14-15 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Da yw dy foli, Arglwydd Dduw,A chanu i’th enw, gweddus yw:Sôn am dy gariad gyda’r wawr,A’r nos am dy ffyddlondeb mawr.

12-13. Blodeua’r da fel palmwydd ir,Fel cedrwydd Lebanon, drwy’r tir.Yn nhŷ yr Arglwydd maent yn byw;Blodeuant yng nghynteddau’n Duw.

14-15. Parhant i ffrwytho hyd yn oedMewn henaint, wyrdd ac iraidd goed,I ddweud nad oes camwri yn Nuw:Ef yw fy nghraig, ac uniawn yw.

Salmau 92